Mae dynes oedrannus wedi marw ar ôl gwrthdrawiad car yn Sir Gaerfyrddin.

Gwrthdarodd dwy Ford Fiesta, un glas ac un arian, ar yr A484 yn Pwll ger Llanelli, toc wedi hanner dydd ddoe.

Fu fu farw teithiwr benywaidd Ford Fiesta glas yn fuan ar ôl y gwrthdrawiad. Mae gyrrwr benywaidd yr un car mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Dioddefodd gyrrwr y Ford Fiesta arian fan anafiadau.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi galw am lygaid dystion. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101.