Lesley Griffiths
Mae Llywodraeth Cymru wed cyhoeddi ffigyrau oriau agor meddygfeydd ar draws Cymru heddiw, ac mae’r Gweinidog Iechyd yn dweud eu bod nhw’n profi ei bod hi nawr yn haws i bobol weld meddyg teulu.

Mae’r ffigyrau ar gyfer 2010/11 yn datgelu mai ychydig iawn o feddygfeydd sy’n cau am hanner diwrnod erbyn hyn, ac mae disgwyl y bydd mwy o feddygfeydd yn cynnig apwyntiadau cynnar a hwyr y dydd cyn bo’ hir.

Bydd hyn, medd Lesley Griffiths, yn ei gwneud hi’n haws fyth i’r rheiny sy’n gweithio fedru mynd i weld y meddyg.

Yn ôl y ffigurau, roedd 31% o feddygfeydd yng Nghymru, sef 149 ohonyn nhw, ar agor drwy’r dydd rhwng 8am a 6.30pm yn 2011. Roedd hyn yn gynnydd o 12% ers 2010.

Roedd y ffigyrau hefyd yn dangos bod 48% o feddygfeydd Cymru, sef 229, ar agor am o leia’ 95% o’r oriau craidd, sef rhwng 8.30am a 6pm.

Er hynny, roedd 19% o feddygfeydd yn parhau i gau am hanner diwrnod am un diwrnod neu fwy bob wythnos yn 2011 – er bod y canran wedi disgyn ychydig o’i gymharu â 2010.

‘Gwasanaeth mwy hwylus

Wrth drafod y ffigyrau heddiw, dywedodd Lesley Griffiths na fyddai’r Llywodraeth yn gorffwys ar eu rhwyfau ar y mater.

“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod meddygfeydd ar agor yn hwy fyth,” meddai.

“Erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd llai fyth o feddygfeydd yn cau am hanner diwrnod, a bydd disgwyl i fwy o feddygfeydd gynnig apwyntiadau yn gynnar yn y bore neu fin nos, hyd at 6.30 yr hwyr, er mwyn rhoi gwasanaeth mwy hwylus i bobol sy’n gweithio.”

Mynnodd y Gweinidog Iechyd na fyddai hyn yn costio’r un geiniog yn fwy gan y byddai modd ei gyflawni o fewn cytundeb presennol meddygon teulu, trwy ailddosbarthu apwyntiadau yn ystod oriau craidd.

Apwyntiadau ar ôl 6.30pm

Dywedodd hefyd mai ei hamcan o fis Ebrill 2013 ymlaen fyddai ymestyn oriau agor a chynnig mwy o apwyntiadau ar ôl 6.30pm – gyda’r bwriad o gynnig mwy o apwyntiadau yn gynnar yn y bore hefyd yn yn y pen draw. Mae adolygiad hefyd ar y gweill i archwilio’r posibilrwydd o agor meddygfeydd ar fore Sadwrn.

“Er bod meddygon teulu yn gweithio’n galed yn eu bröydd i sicrhau eu bod yn ateb gofynion cleifion, mae mwy i’w wneud o hyd i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad i’w gwneud yn haws i bobl weld eu meddyg teulu,” meddai Lesley Griffiths.