Mae dyn 28 oed wedi cael ei arestio ar gyhuddiad o geisio llofruddio yn dilyn gwrthdrawiad traffig yng Nghaerdydd neithiwr lle cafodd wyth o bobl eu hanafu.

Cafodd wyth o ddynion, i gyd o Gaerdydd, eu cludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad yn Stryd Wood tua 7pm neithiwr.

Mae un o’r dynion, sy’n 35 ac yn dod o Grangetown, yn parhau yn yr ysbyty ar ôl iddo ddioddef  llosgiadau.

Mae’r dyn 28 oed yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y digwyddiad ac yn archwilio teledu cylch cyfyng yn yr ardal.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu’r Heddlu ar 02920 527420 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.