Beachy Head
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enwau’r ddynes oedrannus a’i mab gafodd eu darganfod yn farw ar waleod clogwyni yn Nwyrain Sussex.

Cafodd cyrff Elizabeth Gosling, 81, a’i mab Christopher Gosling, 58, o Stryd Treharis, Caerdydd eu darganfod ar glogwyni yn  Beachy Head ar 21 Mawrth.

Mae’n debyg bod y ddau wedi cyrraedd y safle, sy’n adnabyddus fel llecyn i gyflawni hunan-laddiad, am 8.30am y bore hwnnw, yn y car Vauxhall Vectra du a ddarganfuwyd ar ben y clogwyn yn ddiweddarach.

Arestio

Deuddydd cyn i’r ddau farw, cafodd Christopher Gosling ei arestio ar amheuaeth o fod â lluniau camdrin plant yn ei feddiant. Roedd ar fechniaeth yr heddlu wrth i’r ymchwiliad barhau.

Mae ditectifs Heddlu Sussex yn credu bod y ddau wedi aros yn ardal Eastbourne ar y noson cyn iddyn nhw farw. Cafodd eu cyrff eu darganfod gan wylwyr y glannau.

Mae archwiliadau post-mortem wedi cadarnhau bod y ddau wedi marw o amryw anafiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sussex heddiw “nad yw eu marwolaethau yn cael eu trin fel rhai amheus, ac mae’r mater bellach wedi cael ei roi yn nwylo’r crwner,  a bydd cwest yn agor cyn hir.”

Yn y cyfamser, mae Heddlu De Cymru wedi dweud bod y mater wedi cael ei roi yn nwylo Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu, yn sgil y marwolaethau.

Yn ôl datganiad gan Heddlu De Cymru heddiw, cafodd “dyn 58 oed o ardal Cathays, Caerdydd, ei arestio ar amheuaeth o fod â lluniau anweddus yn ei feddiant, ar 19 Mawrth 2012.

“Cafodd ei ryddhau ar fechniaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

“Yn sgil y digwyddiad diweddar yn Sussex, mae’r mater wedi cael ei ddwyn at sylw Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.”

Mae’r clogwyni gwynion 530 troedfedd yn Beachy Head, yn nwyrain parc cenedlaethol South Downs, wedi denu pobol sydd am gyflawni hunan-laddiad ers blynyddoedd.

Mae arwyddion sy’n nodi rhif ffôn y Samariaid wedi eu gosod ar byst ar hyd ymyl y clogwyn, ac mae aelodau o Dîm Caplaniaeth Beachy Head wedi bod yn gwneud patrôls cyson yno ers 2004.