Cafodd gyrrwr tacsi ei arestio neithiwr yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd lle cafodd saith o bobl eu hanafu.

Mae’n debyg bod y gyrrwr wedi bod mewn gwrthdrawiad â grŵp o bobl yn agos i’r orsaf drenau yn y ddinas tua 7pm nos Fawrth.

Cafodd saith o bobl eu cludo i’r ysbyty, rhai gyag anafiadau i’w cefn, yn dilyn y digwyddiad. Ond dywed Heddlu’r De nad ydy eu hanafiadau yn rhai difrifol.

Mae’r gyrrwr tacsi yn cael ei gadw yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd.