Mae S4C wedi datgan ei chefnogaeth i’r ymgyrch i gael parth ‘.cymru’ a ‘.wales’ ar gyfeiriadau’r we yn hytrach na gorfod defnyddio .uk

Dywedodd Prif Weithredwr y sianel, Ian Jones bod “hyrwyddo Cymru a’r iaith Gymraeg wrth galon pob dim yr ydym yn ei wneud” a bod defnyddio ‘.cymru’ a ‘.wales’ yn “ffordd i gyfleu ein hunaniaeth ar ein gwefan a’n holl wasanaethau ar-lein a digidol”.

Mae’r corff byd-eang sy’n cofrestru enwau parth y rhyngrwyd, ICANN, wedi gwahodd ceisiadau ar gyfer creu parthau newydd ac mae cwmni Nominet wedi cael sêl bendith Llywodraeth y Cynulliad i arwain y cais i gael .cymru a .wales.

“Rydym hefyd yn sylweddoli beth fyddai manteision busnes wrth gael yr hawl i ddefnyddio parth ‘.cymru’ neu ‘.wales’” ychwanegodd Ian Jones. “Byddai’r parth yn ffordd effeithiol i ni a’r cwmnïau sy’n darparu ein gwasanaethau gyfleu’r hyn sy’n unigryw am ein cynnyrch.”

Os bydd y cais yn llwyddiannus, dywed cwmni Nominet ei fod yn bwriadu sefydlu swyddfa ddwyieithog yng Nghymru i reoli’r parthau ‘.cymru’ a ‘.wales’.

Cefnogaeth

Mae Nominet wedi croesawu cefnogaeth S4C.  “Mae cael cefnogaeth darlledwr Cymreig mor amlwg ag S4C yn hwb anferth i’r ymgyrch,” medd Alex Blowers.

“Mae’r Sianel wrth galon ein diwylliant a’n diwydiannau creadigol yng Nghymru a hefyd yn allforiwr pwysig, gyda channoedd o raglenni’r sianel wedi eu gwerthu i farchnadoedd tramor.”

Bu mudiad dotCYM yn ceisio cael parth .cym i wefannau Cymru, tan i Ynysoedd y Cayman gael yr hawl i’r enw parth gan eu bod nhw’n wladwriaeth.

Mae Siôn Jobbins o DotCYM yn cefnogi’r bwriad i gael ‘.cymru’ ond yn bryderus fod yr enw parth yn mynd i fod yn berchen i gwmni preifat o Loegr yn hytrach na Llywodraeth Cymru.