Annog cefnogwyr Plaid Cymru i ystyried polisiau Ceidwadwyr Cymru

Diweddarwyd am  


Andrew RT Davies
Bydd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies yn dweud heddiw y dylai pob cefnogwr Plaid Cymru gefnogi’r Ceidwadwyr os ydyn nhw’n “ falch o’u hetifeddiaeth a’u diwylliant a’u hiaith.”

Dyma fydd byrdwn ei neges i rali wanwyn y Ceidwadwyr yn Llanelwy. Mae’r Ceidwadwyr yn credu y bydd llawer o gefnogwyr Plaid Cymru yn poeni y bydd yr arweinydd newydd, Leanne Wood, yn mynd a’r blaid ormod tua’r chwith.

Yn yr etholiadau ar gyfer y Senedd fe lwyddodd y Ceidwadwyr i ddisodli Plaid Cymru a dod yn ail i’r Blaid Lafur ac mae nhw’n gobeithio adeiladu ar hyn yn yr etholiadau lleol.

Cynhelir y rali yma cyn yr etholiadau ar 3 Mai. Mae’r Ceidwadwyr yn gobeithio ennill mwyafrif o seddau ar gynghorau Conwy a Sir Ddinbych ble mae nhw’n rhannu grym ar hyn o bryd, a dal eu gafael ar gynghorau Bro Morgannwg a Threfynwy.

Bydd y rali yn cymeryd lle’r gynhadledd flynyddol oedd i fod i’w chynal yn Llandudno fis yn ôl ond gafodd ei gohirio gyda bythefnos o rybydd oherwydd costau.

Bydd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan hefyd yn annerch y rali.

Mewn annerchiad gerbron y Ceidwadwyr yn yr Alban yn Troon dydd Gwener  dywedodd bod yr uniad rhwng Cymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cynnig “cryfder, diogelwch, rhyddid a ffyniant” a disgwylir iddi ddefnyddio’r un themau yn ei haraith yn Llanelwy.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones