Gillian Clarke
Mae Howard Marks, Dewi Prysor, Julian Cope, Syr Andrew Motion, Gruff Rhys a Gillian Clarke ymhlith y gwesteion sydd wedi eu cadarnhau ar gyfer Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr eleni.

Bydd yr ŵyl dridiau yn cyfuno awduron blaenllaw, beirdd llawryfog, perfformiadau ymylol a cherddorion i ddathlu llenyddiaeth a thirwedd chwedlonol Parc a Chastell Dinefwr, sef un o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Wedi’i lleoli yng nghalon Sir Gâr, bydd hon yn “ŵyl ddwyieithog unigryw a fydd yn cynnig arlwy eang o lenyddiaeth, cerddoriaeth, comedi a sinema o safon,” yn ôl y trefnwyr.

Ymhlith y gwesteion eraill sydd wedi eu cadarnhau ar gyfer yr ŵyl mae’r hanesydd John Davies; Criw Dal dy Dafod, gyda’u sioe farddol a cherddorol; y nofelydd Joe Dunthorne; yn ogystal â’r newyddiadurwr a’r dysgwr Cymraeg, Jasper Rees, a’r prifardd newydd, Rhys Iorwerth.

Trafodaeth a cherddoriaeth

Fe fydd cyfres o ddigwyddiadau hefyd gan gynnwys trafodaeth ar gangsters mewn llenyddiaeth Gymraeg, Twm Morys yn bît-bocsio, ac Ed Holden yn pen-pastynnu, a chyfres fechan o sesiynau yn cymryd cipolwg ar sîn bop Gymraeg y nawdegau.

Curaduron y gerddoriaeth dros y penwythnos fydd John Rostron, trefnydd Gŵyl SŴN, a Huw Stephens, BBC Radio 1. Ynghyd â Gruff Rhys, bydd Emmy the Great a Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio, a bydd rhagor o enwau yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Dywedodd Huw Stephens: “Mae Sŵn yn hybu a dathlu cerddoriaeth newydd sy’n dod  i ac o Gymru. Rydym yn trefnu llwyfannau mewn gwyliau a digwyddiadau eraill yn y DU ac yn ryngwladol, ac felly rydym yn falch iawn o fod yn trefnu’r cynnwys cerddorol ar gyfer  Gŵyl agoriadol Llenyddiaeth Dinefwr.”
Difyrru’r plant

Bydd digon i ddifyrru plant o bob oedran hefyd yng nghwmni Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru, Anni ac Owain o griw Stwnsh, y storïwr Cath Aran; Jez Alborough, crëwr trioleg Eddy and the Bear, ynghyd â’r awdur llyfrau gwyddoniaeth Mark Brake a’r rapiwr John Chase.

Cydweithrediad rhwng Llenyddiaeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Phrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant yw Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr.

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae gan Gymru draddodiad di-dor o ddathlu geiriau, cynghanedd a chân, o’r Eisteddfod Genedlaethol i Ŵyl y Gelli: rydym ni’n ymfalchïo yn ein llenyddiaeth. Eleni, bydd Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr yn deffro hen gyffro’r llys gyda chymysgedd o gomedi, cerddoriaeth a’r llenyddiaeth orau sydd gennym.”

Tocynnau

Cynhelir yr ŵyl ddwyieithog rhwng dydd Gwener, 29 Mehefin a dydd Sul, 1 Gorffennaf. Mae tocynnau i Ŵyl Lenyddiaeth Dinefwr 2012 ar gael o Ticketline:  www.ticketline.co.uk/dinefwr-literature-festival

    Mae Tocyn Penwythnos Oedolyn yn dechrau am £45 i’r Cyntaf i’r Felin (ar werth o 13 Mawrth), ac mae hyn yn cynnwys mynediad i bob un o ddigwyddiadau’r ŵyl.