Y Dirprwy Weinidog tros Blant, Huw Lewis
Fe fydd rhagor o arian yn cael ei roi at rai o gynlluniau’r Llywodraeth o dan strategaeth newydd i atal tlodi plant.

Fe fydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn mynd i Lwynhendy ger Llanelli heddiw i lansio’r ddogfen sy’n rhan o strategaeth i ddileu’r broblem yn llwyr o fewn deng mlynedd.

Fe fydd rhagor o arian yn mynd at y cynllun Dechrau’n Deg, fe fydd cynllun arbrofol Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei ymestyn trwy Gymru ac fe fydd £3 miliwn ychwanegol yn mynd i helpu pobol ifanc anabl wrth iddyn nhw droi’n oedolion.

“Y brif flaenoriaeth i ni yw sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi yn cael yr un cyfle mewn bywyd â’u cyfoedion mwy cefnog,” meddai Carwyn Jones.

“Mae’r hinsawdd economaidd bresennol yn ei gwneud hi’n bwysicach byth i ni gadw ein hymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi plant, gan roi blaenoriaeth i anghenion y mwyaf tlawd ac amddiffyn y rhai sydd fwyaf hawdd eu niweidio.”

Y blaenoriaethau

Mae’r strategaeth newydd ar gyfer y tair blynedd nesa’n gosod tair blaenoriaeth:

• Lleihau nifer y teuluoedd lle nad oes neb yn gweithio.

• Gwella sgiliau rhieni a phobol ifanc mewn cartrefi incwm isel.

• Lleihau anghyfartaledd er mwyn gwella iechyd ac addysg y teuluoedd tlota’.

Yn ôl y Dirprwy Weinidog tros Blant, Huw Lewis, fe fydd angen ysbrydoli a defnyddio profiad nifer eang o wahanol gyrff trwy Gymru er mwyn cyflawni’r amcanion.