Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi lansio apêl am arian ar wefan codi arian heddiw, gyda tharged i godi £1,000 erbyn Eisteddfod Bro Morgannwg eleni.

Mae’r criw codi arian ar gyfer yr Eisteddfod wedi sefydlu tudalen noddi ar gyfer yr ŵyl ar wefan Just Giving, ac yn gofyn i’r cyhoedd led-led Cymru, a thu hwnt, am eu cefnogaeth ariannol yn ystod y cyfnod economaidd caled.

“Mae’r Eisteddfod yn costio £3.4 miliwn i’w chynnal bob blwyddyn, ac mae’r gwobrau ariannol a’r cyfraniadau a wneir gan ein cefnogwyr yn hollbwysig i lwyddiant pob Eisteddfod,” medd eu tudalen noddi.

“Fel nifer fawr o sefydliadau eraill yng Nghymru a thu hwnt, mae cyfnodau o gyni economaidd yn effeithio ar yr Eisteddfod Genedlaethol, gan daro ffynonellau incwm pwysig fel nawdd corfforaethol ac incwm gan stondinau.

“Dyma lle y gallwch chi ein helpu ni i sicrhau dyfodol yr Eisteddfod ac i wneud yn siwr bod seiliau’r unig ŵyl yn y byd sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru i bobol o bob oed yn ddiogel,” meddai’r trefnwyr.

Does dim ceiniog wedi ei gyfrannu eto, ond yn ystod y pum mis nesaf, mae’r ŵyl yn gobeithio y bydd £1,000 arall ganddyn nhw i’w gyfrannu tuag at eu coffrau, erbyn agor Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar 4 Awst 2012.

Colled

Mae’r ymgyrch ddiweddaraf i godi arian i’r ŵyl yn dilyn cyfnod anodd i’r Eisteddfod y llynedd, wedi iddyn nhw gyhoeddi colled o £90,000  yn ystod eu hymweliad ag ardal Wrecsam yn 2011.

Ym mis Rhagfyr y llynedd fe gyhoeddodd yr Eisteddfod y byddai newidiadau i’r ŵyl eleni er mwyn ceisio arbed £200,000 ar eu gwariant eleni, ac yn y dyfodol.

Ymhlith y newidiadau hynny y mae’r penderfyniad i leihau maint y Pafiliwn eleni, ynghyd â pheidio â chael adeilad ar y maes carafanau yn 2012, a chael maes awyr agored ar gyfer gigiau Maes B, yn hytrach na’r adeilad dros-dro arferol.

www.justgiving.com/Eisteddfod-Bro-Morgannwg