Gai Toms
Bydd protest yn cael ei gynnal yn erbyn cau Ysgol y Parc yr wythnos nesaf, ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi heddiw y bydd enillydd Cân i Gymru yno i gefnogi’r ymgyrch.

Llai na 24 awr ers i Gai Toms godi tlws Cân i Gymru 2012, mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgelu y bydd y canwr a’r cyfansoddwr yn canu mewn gig i wrthwynebu penderfyniad Cyngor Gwynedd i fwrw ymlaen â’u cynlluniau i gau Ysgol y Parc.

Bydd Rali ‘Safwn yn y Bwlch’ yn cael ei gynnal yn Ysgol y Parc, ger y Bala, ar ddydd Sadwrn, 17 Mawrth – wedi i Gyngor Gwynedd bleidleisio’n derfynol dros gau’r ysgol ddydd Iau diwethaf.

Bydd y rali yn cynnwys areithiau gan gynghorwyr a llywodraethwyr lleol, gyda negeseuon o gefnogaeth gan bobol sy’n methu bod yno yn cael eu dangos ar sgrin fawr – cyn dangos gêm rygbi Cymru v Ffrainc yn fyw ar y sgrin. Gyda’r hwyr wedyn fe fydd Gai Toms yn ymuno ag artistiaid lleol a phlant ysgol mewn cyngerdd.

Dywedodd Osian Jones o Gymdeithas yr Iaith heddiw eu bod nhw’n “arbennig o falch fod enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru, Gai Toms, wedi cytuno’n syth i ganu a chefnogi’r achos.

“Mae ei gân “Mor braf yw Byw” yn crynhoi i’r dim ewyllys y plant a’r bobol leol i fynnu bod eu hysgol a’u cymuned yn cael byw,” meddai.

“Galwn ar bawb i ddangos eu cefnogaeth i’w brwydr ddewr ac i anfon gwrthwynebiad i Rybudd Cyngor Gwynedd i gau’r ysgol.”