bad achub
Mae Gwylwyr y Glannau Abertawe wedi beirniadu galwr sydd wedi sbarduno ymdrech chwilio enfawr mewn gwyntoedd garw am ddim rheswm ddoe.  

Mae’r Gwasanaethau achub wedi dweud fod achubwyr yn Abertawe wedi “peryglu eu bywydau” ddoe ar ôl derbyn galwad gan farcud-fyrddiwr a oedd mewn perygl ar y môr.

Roedd y galwr wedi dweud ei fod mewn perygl tua 14.50pm  ddoe ger Port Talbot.

“Pan wnaeth Gwylwyr y Glannau Abertawe ofyn am fwy o fanylion – fe wnaeth y llinell ffôn dorri,” meddai Asiantaeth Gwylwyr y Glannau.

Fe wnaeth tri o longau’r gwasanaethau ymateb i’r alwad yn ogystal â thimau achub Port Talbot a’r Mwmbwls.

“O’r alwad gyntaf – roedd arwyddion mai galwad ffug oedd hwn gan mai ychydig o argyfwng oedd yn llais y galwr ac nad oedd sŵn yn y cefndir,” meddai Dai Jones, Rheolwr Gwylwyr y Glannau, Abertawe.

“Er gwaethaf hyn – mae’n rhaid i ni yrru achubwyr allan rhag ofn ei fod yn argyfwng go iawn – ond ni wnaeth y timau ddarganfod dim y tro hwn.”

“Mae galwadau ffug yn rhwystredig i ni … maen nhw’n gwastraffu ein hamser – ac yn peryglu bywydau achubwyr.”