Protest Cymdeithas yr Iaith yn 2011
Mae ymgyrchwyr wedi mynegi siom heddiw wedi i Gyngor Gwynedd bleidleisio’n derfynol ar ddyfodol Ysgol Gynradd y Parc, ger y Bala.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y Cyngor wrth Golwg 360 heddiw fod mwyafrif cynghorwyr y sir wedi pleidleisio o blaid cau’r ysgol.

Daw’r bleidlais ddiweddaraf ar ddyfodol Ysgol y Parc ar ôl i Gyngor Gwynedd orfod ail-ystyried eu cynlluniau, yn sgil cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru eu bod yn mynd i leihau eu cyfraniad ariannol tuag at ysgolion newydd o 70% i 50%.

Ond heddiw fe benderfynodd Cyngor Gwynedd i fwrw ymlaen â’r cynllun i gau Ysgol y Parc, er gwaetha’r “ansicrwydd ariannol.”

Wrth ymateb i’r bleidlais, dywedodd llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith, Ffred Ffransis, ei fod yn “gresynu at benderfyniad Cyngor Gwynedd.”

Rhybudd statudol

Mae’r Cyngor bellach wedi cyhoeddi Rhybudd Statudol i gau Ysgol y Parc, gan ddechrau ar fis o gyfnod lle gall y cyhoedd gyflwyno’u rhesymau dros wrthwynebu cau’r ysgol.

“Bydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi cefnogaeth lawn i’r Parc ac i unrhyw gymunedau eraill ym Meirion a fydd yn brwydro yn erbyn y rhybuddion i gau eu hysgolion,” meddai Ffred Ffransis.

“Byddwn yn cyhoeddi’n fyw ar Sianel 62 nos Sul yma ein cynlluniau i gefnogi’r Parc ac i godi gwrthwynebiad eang i’r bwriad i gau’r ysgol.”