Bydd Eisteddfodwyr yn medru dewis eu seddi ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf eleni trwy system ar-lein newydd.

Mae tocynnau Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg wedi mynd ar werth heddiw ac am y tro cyntaf erioed bydd modd dewis yr union seddi drwy wefan yr ŵyl.

Dywedodd Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards: “Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld mwy a mwy o Eisteddfodwyr yn troi at y we er mwyn prynu tocynnau, ac eleni rydym yn cynnig gwasanaeth newydd ar y wefan. Yn y gorffennol roedd y cyfrifiadur yn dewis y sedd orau oedd ar gael ar y pryd i’r rheini a oedd yn prynu ar-lein, ond o heddiw ymlaen gallwch ddewis lle y byddwch yn eistedd.”

‘Bargen’

Bydd modd i eisteddfodwyr brynu tocynnau yn y dull traddodiadol hefyd trwy linell ffôn yr Eisteddfod. Dywed Hywel Wyn Edwards y bydd y tocynnau ar gael am bris gostyngol tan 1 Gorffennaf.

Ychwanegodd: “Mae’r cynllun tridiau ar y Maes am bris deuddydd hefyd ar gael rŵan, ynghyd â’r tocyn wythnos, ac mae’r cyfan oll yn cynnig bargen arbennig i Eisteddfodwyr o bob oed.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg o 4-11 Awst ar dir hen faes awyr Llandw ger Llanilltud Fawr a’r Bontfaen.