Mae cwmni Acen wedi cyhoeddi heddiw eu bod yn dod i ben, 23 mlynedd ers eu sefydlu.

Sefydlwyd y cwmni, sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer dysgwyr Cymraeg o bob oed, yn ôl yn 1989.

Prosiect tymor byr gan S4C oedd y cwmni i ddechrau, er mwyn darparu cynghor ac adnoddau wrth gefn ar gyfer y rhaglen i ddysgwyr ‘Now You’re Talking’.

Ond o’r dechreuad hwnnw aeth Acen yn gwmni annibynnol, gyda statws elusen addysgol, gyda’r nod o wasanaethu dysgwyr Cymraeg.

Ers dros 20 mlynedd bellach mae’r cwmni wedi bod yn creu adnoddau ar gyfer dysgwyr hen ac ifanc, ac maen nhw wedi bod yn torri tir newydd yn gyson ym maes hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle, isdeitlo Cymraeg, a darpariaeth i ddysgwyr ar y teledu a’r we.

Y diwedd i Acen ond nid i’r gwasanaeth

Wrth gyhoeddi’r newyddion heddiw, dywedodd y cwmni bod nifer o’r gwasanaethau y bu Acen yn eu datblygu a’u meithrin yn mynd i barhau, a hynny drwy rai o staff presennol y cwmni.

“Bydd y tîm isdeitlo yn gweithredu bellach o dan enw Capsiwn; bydd ein tiwtoriaid yn darparu hyfforddiant iaith i’r gweithle o dan enw Ysgol Iaith Acen Cyf; a bydd y gwaith ymgynghorol ar gyfer y teledu a’r we yn digwydd trwy gwmni Fflic, cynhyrchwyr HWB, y gwasanaeth newydd i ddysgwyr,” meddai’r cwmni.

Wrth ddiolch am waith caled eu staff ar hyd y blynyddoedd, dywedodd Bwrdd Ymddiriedolwyr Acen eu bod yn siomedig iawn bod y cwmni’n dod i derfyn.

“Er bod tristwch wrth weld cyfnod mor gynhyrchiol yn dod i ben, rhaid ymfalchio yn yr hyn a gyflawnwyd a dymuno’n dda i’r gwasanaethau a fydd yn parhau.”