Gyda mis union i fynd tan y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad, mae pump o unigolion wedi cael eu penodi i chwarae rhan allweddol yn yr ymgyrch dros bleidlais o blaid.

Mae’r ymgyrch ‘Ie dros Gymru‘ wedi dewis athrawes, cyfarwyddwr elusen, newyddiadurwraig, pennaeth coleg, a chyhoeddwr stadiwm yn is-gadeiryddion a fydd yn gweithredu fel llysgenhadon i’r ymgyrch.

Fe gafodd pennaeth Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, ei benodi’n Gadeirydd yr ymgyrch ‘Ie dros Gymru’ ym mis Rhagfyr llynedd, ac addawodd ymgyrch a fyddai’n canolbwyntio ar y bobl, yn hytrach na gwleidyddion.

Cafodd ymgyrch genedlaethol ‘Ie dros Gymru’ ei lansio yng Nghaerdydd ym mis Ionawr ac ers hynny, mae cyfarfodydd rhanbarthol wedi bod ym mhob cwr o Gymru.

Yr Is-Gadeiryddion …

• Jane Wyn, Pennaeth y Chweched Dosbarth yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan
• David Jones, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Glannau Dyfrdwy
• Carolyn Hitt, Newyddiadurwraig a darlledwraig ar ei liwt ei hun
• Lee Waters, Cyfarwyddwr Cenedlaethol yr elusen Cludiant Cynaliadwy Sustrans Cymru
• Ali Yassine, Cyhoeddwr Stadiwm, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd

“Mae’n bleser o’r mwyaf cael pump o is-gadeiryddion sydd â chymaint cyfoeth o brofiad o bob maes mewn bywyd,” meddai Roger Lewis.

“Rwy’n gwybod y byddant yn llysgenhadon cryf ac yn ychwanegu cymeriad at ymgyrch sydd â’i gwreiddiau gyda’r bobl, nid gwleidyddion”

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r pum is-gadeirydd, ym mhob cwr o’r wlad, yn unedig y tu ôl i un neges syml: Dylai cyfreithiau sy’n gymwys yn unig i Gymru gael eu gwneud yng Nghymru.”

‘Er lles Cymru’

“Rwy’n credu mai bydd pleidlais ‘Ie’ ar Fawrth 3 fydd orau er lles Cymru. Mae symleiddio pwerau deddfu’r Cynulliad Cenedlaethol yn angenrheidiol, ac mae’n hen bryd gwneud,” meddai Jane Wyn.

“Mae’n hollbwysig fod pobl Cymru yn dod yn rhan o gefnogi’r ymgyrch hon er mwyn gwneud yn siŵr ein bod oll yn elwa o Gynulliad Cenedlaethol cyflymach, gwell a rhatach er lles holl bobl Cymru.”

‘Dim dewis arall’

“I mi, does dim dewis ond pleidlais Ie. Anghofia’i byth beth ddywedodd yr Athro Gwyn Alf Williams yn y 1980au pan oedd yn ymgyrchu dros Gynulliad i Gymru: ‘Rydym ni fel pobl wedi bod yma ers 2000 o flynyddoedd. On’d yw’n bryd i ni gael allwedd ein drws ffrynt ein hunain?’ Wel mae’r allwedd gennym ni nawr – ond mae’n bryd gwneud tipyn o waith o gwmpas y tŷ,” meddai Carolyn Hitt.

‘Sefyll ar ei thraed ei hun’

“Mae gennym bobl yng Nghymru sydd yn fwy nac abl i wneud penderfyniadau sy’n iawn i’r wlad hon. Bydd pleidlais Ie yn y refferendwm yn anfon neges gref i weddill y byd y gall Cymru sefyll ar ei thraed ei hun a’n bod yn hyderus fel cenedl yn ein hawl ein hun. Rwyf wir yn credu mai mater yw hyn o gael y pwerau sydd eu hangen i wneud y gwaith yn iawn: does dim amheuaeth y gallwn wneud y gwaith – angen yr arfau iawn sydd arnom,” meddai Ali Yassine.