Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg wedi bygwth gorfodi’r corff darlledu Ofcom  i newid ei gynllun iaith wrth ddyfarnu trwyddedau radio masnachol.

Mae Leighton Andrews wedi defnyddio Deddf Iaith 1993 i fynnu adolygiad o Gynllun Iaith Gymraeg  Ofcom.

Roedd Ofcom wedi gwrthod rhoi cymal yn eu cynllun iaith yn ymwneud ag ystyried natur ieithyddol gwahanol gymunedau yng Nghymru wrth lunio trwyddedau darlledu radio. O’r herwydd roedd  Bwrdd yr Iaith wedi gwrthod cymeradwyo’r cynllun iaith.

Dywedodd Leighton Andrews heddiw: “Yr wyf heddiw wedi ysgrifennu at Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac Ofcom i’w hysbysu fy mod wedi penderfynu arfer pwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 14(4) o Ddeddf 1993 ac wedi gofyn i’r ddau  geisio dod i gytundeb ynghylch telerau cynllun iaith Gymraeg Ofcom o fewn mis i ddyddiad y llythyr.”

‘Arwyddocaol iawn’

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi disgrifio’r penderfyniad fel un “arwyddocaol iawn”. Mae’r mudiad wedi bod yn herio penderfyniad y rheolydd Ofcom i wrthod gosod amodau iaith ar drwyddedu radio lleol, a bu’n ymgyrchu gydag eraill i warchod yr oriau Cymraeg ar donfeddi Radio Ceredigion.

Meddai Adam Jones o Gymdeithas yr Iaith: “Dyma’r tro cyntaf yng Nghymru i Weinidog ymyrryd i sicrhau y gall fod lle teilwng i’r Gymraeg mewn radio lleol. Gobeithiwn yn fawr fod y cynllun iaith newydd, a ddaw yn sgil y penderfyniad hwn, yn cryfhau sefyllfa’r Gymraeg ar radio lleol.

“Mae sefyllfa’r Gymraeg ar y radio yn wirioneddol broblematig ar hyn o bryd. Mae’r ystod o orsafoedd sydd ar gael nawr yn Saesneg wedi ffrwydro, tra bo’r hyn sydd ar gael yn y Gymraeg wedi crebachu’n sylweddol. Mae’r profiad hwn yn cryfhau ein dadleuon fod angen datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu yma i Gymru.”

Bwrdd yn croesawu’r datblygiad

Mae Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg hefyd wedi croesawu datganiad Leighton Andrews.

Dywedodd Marc Phillips: “Mae datganiad y Gweinidog heddiw yn galonogol. Yn y gorffennol fe fuom yn gwneud y dadleuon cyfreithiol hyn gydag Ofcom, ond heb gynnydd. Bellach, mae gennym rym Llywodraeth y tu ôl i’r dadleuon hynny.

“Rydym eisoes wedi gweithredu ac ysgrifennu at Ofcom yn gofyn am gyfarfod er mwyn trafod hyn ar fyrder.

“Ein gobaith yw y bydd modd dod i gytundeb boddhaol gydag Ofcom ar hyn cyn gynted â phosibl, yn unol ag ewyllys y Gweinidog, er mwyn sicrhau cyfleoedd i bobl Cymru dderbyn gwasanaeth radio lleol yn eu dewis iaith.”

‘Cyfrifoldebau’

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Ofcom: “Mae Ofcom yn cymryd ei gyfrifoldebau a’i ddyletswyddau o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg o ddifrif ac wedi ei ymrwymo i weithredu y cynllun iaith Gymraeg gwirfoddol a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2006.

“Byddwn yn parhau i gydweithio gyda’r Bwrdd ar ei ofynion ychwanegol ond gallwn ond wneud hynny o fewn terfynnau ein pwerau statudol.”