Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw mai rhaglenni dyddiol Heno a Prynhawn Da fydd yn cymryd lle Wedi 3 a Wedi 7 ar 1 Mawrth eleni, a rhaglen gystadlaethau Pen8nos ar gyfer bob nos Wener.

Bydd y rhaglenni newydd yn gyfle i weld un neu ddau o wynebau newydd yn dod i’r sgrin, ond bydd llawer o’r wynebau cyfarwydd yn dychwelyd hefyd.

Un o’r wynebau amlycaf o’u plith fydd Rhodri Ogwen, sydd wedi cael rhan yn y dair rhaglen newydd sydd i gael eu lansio ddydd Gŵyl Dewi.

Bydd Rhodri Ogwen, sy’n gyn-gyflwynydd ar Sky Sports ac Al Jazeera Sports, yn ymuno â thîm sy’n cynnwys Emma Walford, Rhodri Owen a Mari Grug ar gyfer cyflwyno Heno, sydd i’w darlledu bob nos Lun i nos Iau am 7pm.

Bydd y rhaglen sy’n cymryd lle Wedi 3 – Prynhawn Da – yn cael ei darlledu am 1pm, ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda’r tîm cyflwyno yn cynnwys Rhodri Ogwen, Angharad Mair, a Sian Thomas.

‘Mentrus’

Y rhaglen nos Wener yw prosiect mwyaf mentrus y Sianel, a’r syniad tu ôl i’r rhaglen fyw yw y bydd yn paratoi gwylwyr ar gyfer y penwythnos.

Bydd Pen8nos yn cael ei rhannu’n ddwy ran, gyda’r rhan gyntaf, rhwng 7-7.30pm, a’r ail ran yn cael ei darlledu rhwng 8.25-9.30pm.

Bydd y rhaglen yn cyfuno darnau stiwdio gyda darlledu cyson o gymunedau ar draws Cymru. Canolbwynt y rhaglen, medd S4C, fydd cael timau i gystadlu yn erbyn ei gilydd – a’r timau hynny yn cynrychioli clybiau, grwpiau a theuluoedd mewn cymunedau ar draws Cymru.

Eleri Siôn a Gethin Evans fydd prif gyflwynwyr y rhaglen, gyda’r gantores Elin Fflur a’r gyflwynwraig newydd Llinos Lee yn darlledu o’r lleoliadau ar draws Cymru.

Bydd ail-ran y rhaglen yn cynnwys cyfres newydd o Jacpot – a Rhodri Ogwen fydd yn cymryd yr awenau ar honno.

Tinopolis

Daw’r cyhoeddiad heddiw â diwedd ar wythnosau o ddyfalu pwy fydd yn cael aros, a phwy fydd yn gorfod mynd, wedi i Tinopolis ennill y tendr newydd ar gyfer rhaglenni cylchgrawn y sianel.

Roedd Golwg 360 eisoes wedi datgelu na fyddai John Hardy, Meinir Gwilym, na Gerallt Pennant yn rhan o’r arlwy newydd, ac y byddai swyddfa Tinopolis yn y Galeri, Caernarfon, yn cau o dan y cynllun rhagelnni newydd.

Bydd Heno, Prynhawn Da a Pen8nos yn cael eu lansio ar 1 Mawrth, ac mae S4C yn dweud y bydd y “dair cyfres fyw ffres yn brif sylfaen i amserlen newydd” y Sianel.