Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud eu bod nhw wedi eu cyffroi gan yr ymateb fu i lansiad eu sianel newydd ar-lein neithiwr.

Llwyddodd gwefan ‘Sianel 62’ i ddenu 2,000 o ymwelwyr ar eu noson agoriadol, gydag awr a hanner o ddarlledu gwreiddiol drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae e’n galonogol dros ben,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, wrth Golwg 360 heddiw.

“Ac mae’r ymateb yn profi ein bod ni’n cynnig rhywbeth newydd i wylwyr.”

Mae’r sianel newydd wedi ei sefydlu i gyd-fynd â dathliad 50 mlynedd Cymdeithas yr Iaith eleni, a’r bwriad yw i ddarlledu cyfres o ragelnni bob nos Sul, gan ddechrau am 8pm.

Mae ‘Sianel 62’ wedi cael ei hyrwyddo fel sianel fydd yn “herio” ac yn cynnig rhaglenni “ifanc iawn ei naws”, ac mae Bethan Williams yn gobeithio y bydd y sianel yn gallu datblygu ar y llwyfan a gafwyd neithiwr – oedd yn cynnwys darnau comedi, eitemau gwleidyddol, a fideos cerddoriaeth.

“R’yn ni’n gobeithio darparu mwy o gomedi, mwy o gerddoriaeth a mwy o wleidyddiaeth yn y dyfodol, ac r’yn ni’n coresawu cyfraniadau gan bawb,” meddai.

“R’yn ni eisiau adeiladu o ran cyfranwyr a gwylwyr.”

Problemau technegol…

Un o rinweddau mawr ‘Sianel 62’, medd Bethan Williams, yw’r gwahoddiad agored i bawb gyfrannu, a hynny i’r deunydd, ac i’r drafodaeth am y sianel iaith Gymraeg newydd gyntaf ers lansiad S4C.

Wrth ymateb i lansiad y sianel newydd neithiwr, fe ddaeth i’r amlwg trwy’r trafod ar nifer o wefannau cymdeithasol fod sawl un yn cael problem wrth wylio’r rhaglen – gydag oedi cyson wrth i’r deunydd lwytho.

Yn ôl Bethan Williams, roedd “rhai problemau technegol ar y dechrau, ac r’odd hynny yn rhwystredig iawn.”

Mae’n cyfaddef fod cynifer y gwylwyr wedi cyfrannu at y broblem honno, ond bod y broblem wedi cael ei datrys yn ddiweddarach.

“Niferoedd y gwylwyr oedd y broblem fwyaf. Pan aeth y nifer i lawr, oedd e’n gweithio’n iawn. Ond r’yn ni yn dysgu fel y’n ni’n mynd ymlaen,” meddai Bethan Williams.

“Ar ddiwedd y dydd, criw o wirfoddolwyr y’n ni, dy’n ni ddim yn honni ein bod ni’n berffaith,” meddai.

Bydd y sianel yn darlledu’n fyw unwaith eto nos Sul nesaf am 8pm, a than hynny, mae rhaglenni neithiwr i gyd ar gael i’w gwylio eto ar y gwasanaeth ar alw ar www.gwefan.sianel62.com.