Mae’r gwasanaethau brys wedi rhybuddio ynglŷn â thanau trydanol yn dilyn tân yn Llandudno neithiwr

Aethpwyd a tri o bobol i’r ysbyty ar ôl i ddiffoddwyr tân eu hachub o adeilad ar Trinity Avenue y dref fore ddoe.

Mae dynes oedrannus a’i mab yn yr uned gofal dwys ar ôl derbyn triniaeth am anadlu mwg.

Cafodd mab arall ei ryddhau o’r ysbyty brynhawn ddoe ar ôl derbyn triniaeth.

Mae ymchwiliad y gwasanaethau brys wedi darganfod fod y tân yn un trydanol ac wedi dechrau ar y llawr gwaelod.

“Mae’r dioddefwyr yn ein meddyliau ni ac rydyn ni’n dymuno gwellhad buan iddyn nhw,” meddai Colin Hanks o Wasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru.

“Mae’r tân yma yn dangos pa mor beryg yw tanau trydanol – maen nhw’n gallu taro ar unrhyw adeg, yn unrhyw le.

“Mae’n bwysig paratoi ar gyfer tân posib, drwy sicrhau fod larymau mwg wedi eu gosod yn eich tai a bod modd i chi a’ch teulu ddianc o’r tŷ cyn gynted a bo modd.”

Dywedodd y dylid sicrhau nad yw socedi yn cael eu gorlwytho, a’i bod yn syniad da gwirio i weld a yw gwifrau wedi rhaflo.

Ychwanegodd y dylid dad-blygio teclynnau pan nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio, a’;u cadw nhw’n lan ac yn gweithio yn dda.