Cafodd tri o bobl eu hachub ar ôl tân mewn tŷ yn Llandudno bore ma.

Cafodd Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw toc cyn 9am bore ma ar ôl adroddiadau bod adeilad yn Rhodfa’r Drindod, Llandudno ar dân.

Cafodd criwiau tân o Landudno, Conwy a Bae Colwyn eu galw i’r digwyddiad.

Cafodd y tri pherson eu cludo i’r ysbyty. Mae dyn a dynes yn yr uned ofal dwys ar ôl dioddef o effeithiau anadlu mwg, a chafodd dyn arall fân anafiadau.

Cafodd diffoddwr tân hefyd ei gludo i’r ysbyty yn dioddef o effeithiau anadlu mwg ond cafodd ei ryddhau yn ddiweddarach.

Mae Heddlu’r Gogledd a Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad i achos y tân.