Kelvin Jones
Mae  dyn 42 oed wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon bore ma ar gyhuddiad o lofruddio dyn ym Mangor dros y penwythnos.

Cafodd David Anthony Swift ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon yn ddiweddarach.

Cafwyd hyd i Kelvin Jones, 43 oed, mewn tŷ yn Sgwâr Britannia, Bangor Uchaf yn ystod oriau mân bore dydd Sul.

Mae dyn 36 oed a dynes 27 oed gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi cael eu rhyddhau yn ddi-gyhuddiad.

Cafodd dynes arall 25 oed ei rhyddhau ar fechniaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.