Kelvin Jones
Fe fydd dyn 42 oed yn mynd gerbron llys yng Nghaernarfon bore ma ar gyhuddiad o lofruddio dyn ym Mangor dros y penwythnos.

Mae  David Anthony Swift wedi ei gyhuddo o lofruddio Kelvin Jones ym Mangor.

Cafwyd hyd i Kelvin Jones, 43 oed, mewn tŷ yn Sgwâr Britannia, Bangor Uchaf yn ystod oriau mân bore dydd Sul.

Mae dyn 36 oed a dynes 27 oed gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi cael eu rhyddhau yn ddi-gyhuddiad.

Cafodd dynes arall 25 oed ei rhyddhau ar fechniaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.