Cafodd bachgen wyth oed o Rydaman losgiadau difrifol ar ôl i ganhwyllau yn ei ystafell wely achosi i’w ddillad fynd ar dân tra roedd yn chwarae gem ar ei Nintendo Wii.

Cafodd diffoddwyr tân yn Sir Gaerfyrddin eu galw i’r tŷ  yn Rhydaman tua 5.10pm ddydd Llun yn dilyn adroddiadau bod plentyn wedi cael ei losgi ar ôl i’w ddillad fynd ar dân.

Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Treforys mewn ambiwlans awyr lle mae’n cael triniaeth am losgiadau i’w frest a’i freichiau.

‘Canhwyllau’n beryglus’

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin: “Mae’n ymddangos bod y bachgen yn ei stafell wely yn chwarae ar ei Nintendo Wii pan ddechreuodd y tân. Deellir bod canhwyllau wedi cael eu defnyddio er mwyn tanio’r peiriant Wii oedd wedi torri.

“Unwaith eto rydyn ni’n cael enghraifft o blentyn yn cael ei adael i chwarae gyda matsis ac yn cael anafiadau difrifol a allai fod wedi peryglu ei fywyd. Er eu bod nhw’n ymddangos yn ddigon diniwed, mae canhwyllau bach (tea lights) yn gallu bod yn beryglus.”

Dywedodd bod y teulu wedi cael dihangfa lwcus a bod yr arfer o ddefnyddio canhwyllau i danio gemau Wii sydd wedi torri yn “hynod esgeulus” – fe fyddai’n rhatach i drwsio’r peiriant neu brynu un newydd, meddai.