Mae dyn wedi ei ddarganfod yn farw yn dilyn tân mewn carafán yn Llangollen.

Cafodd y gwasanaethau tân ac achub Gogledd Cymru eu galw i’r parc carafanau yn Heol Abbey, Llangollen tua 11.10pm neithiwr yn dilyn adroddiadau bod carafán ar dân.

Roedd diffodwyr tân o Langollen a’r Waun wedi bod yn ceisio diffodd y tân.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân bod corff dyn, y credir ei fod yn ei bedwardegau, wedi ei ddarganfod yn y carafán.

Mae Heddlu’r Gogledd a’r Gwasanaeth Tân yn cynnal ymchwiliad ar y cyd.