Lynette White
Fe fydd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) yn cynnal ymchwiliad i geisio darganfod a oedd swyddogion wedi gorchymyn bod dogfennau yn cael eu  dinistrio, a arweiniodd at fethiant achos yn ymwneud â honiadau o lygredd yn erbyn yr heddlu.

Ym mis Rhagfyr 2011, fe chwalodd yr achos yn erbyn deg diffynnydd, gan gynnwys wyth cyn swyddog yr heddlu, oedd wedi eu cyhuddo o “greu tystiolaeth” yn achos llofruddiaeth Lynette White a arweiniodd at garcharu tri dyn ar gam, yn dilyn honiadau bod dogfennau wedi cael eu dinistrio.

Ond cafwyd hyd i’r dogfennau coll yn ddiweddarach yn nwylo Heddlu De Cymru.

Ymchwiliad annibynnol

Yn ystod yr achos, fe honwyd bod ditectif wedi gorchymyn bod dogfennau oedd wedi cael eu cyflwyno gan yr IPCC yn cael eu dinistrio.

Fe benderfynodd Mr Ustus Sweeney na fyddai’r diffynyddion yn cael achos teg ac fe chwalodd yr achos oedd wedi costio miliynau o bunnoedd.

O ganlyniad fe benderfynodd y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus  Keir Starmer QC, i orchymyn ymchwiliad annibynnol i’r mater.

Cofnodi

Dywedodd Comisiynydd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu Sarah Green bod yr ymchwiliad wedi cael ei ddiweddaru er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod y dogfennau wedi dod i’r fei.

Dywedodd nad oedd yr IPCC yn ymchwilio i resymau am fethiant yr achos, sydd yn fater i’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.

Bwriad ymchwiliad yr IPCC yw ceisio darganfod a oedd yna benderfyniad gan swyddog yr heddlu neu aelod o staff i ddinistrio pedair dogfen, ac os felly, a gafodd y rheswm tu ôl i’r penderfyniad ei gofnodi.

Mae hefyd yn ceisio darganfod beth ddigwyddodd i’r dogfennau cyn iddyn nhw gael eu darganfod ar 17 Ionawr.

Cafodd  Stephen Miller, Yusef Abdullahi, Tony Paris a’u cefndryd Ronnie a John Actie eu harestio ar amheuaeth o lofruddio Lynette White, 20 oed.

Cafwyd Ronnie a John Actie yn ddi-euog o’i llofruddio ond bu’n rhaid i’r tri arall dreulio dwy flynedd dan glo cyn cael eu rhyddhau ar apêl. Bu farw Yusef Abdullahi, 49, y llynedd.

Yn 2003, roedd Jeffrey Gafoor wedi cyfaddef iddo lofruddio Lynette White a chafodd ei ddedfrydu i garchar am oes.

Roedd ei gyfaddefiad wedi sbarduno’r ymchwiliad i swyddogion yr heddlu yn yr achos gwreiddiol.

‘Bwlio’

Yn 2005 cafodd y 10 eu harestio ac fe ddechreuodd achos yn eu herbyn yn eu cyhuddo o fwlio tystion i gytuno i dystiolaeth ffug ynglŷn â’r llofruddiaeth.

Yn eu plith roedd y cyn uwch arolygydd Richard Powell, 58, a’r cyn brif arolygwyr Thomas Page, 62 a Graham Mouncher, 59.

Fe gawson nhw eu cyhuddo o gynllwynio gyda Michael Daniels, 62, Paul Jennings, 51, Paul Stephen, 50, Peter Greenwood, 59, a John Seaford, 62, i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Pan fethodd yr achos, fe honwyd ar gam bod yr uwch swyddog fu’n ymchwilio’r i’r achos, Chris Coutts, wedi gorchymyn bod dogfennau yn ymwneud â chwyn a wnaed gan John Actie i’r IPCC, yn cael eu dinistrio.