Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyhoeddi enw’r dyn y cafwyd hyd i’w gorff mewn tŷ ym Mangor ddydd Sul.

Roedd Kelvin Jones, 43 oed, yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol ond yn byw yn Sgwâr Britannia, Bangor.

Mae pedwar o bobl gafodd eu harestio ddoe ar amheuaeth o’i lofruddio yn dal i gael eu holi gan yr heddlu.

Cafodd dau ddyn a dwy ddynes eu harestio yn dilyn marwolaeth Kelvin Jones yn ystod oriau mân fore dydd Sul. Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn Sgwâr Britannia toc wedi 3am.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhywun sydd â gwybodaeth ynglyn â’r digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.

Dywedodd yr Arolygydd Simon Barrasford bod ymholiadau o dŷ i dŷ yn parhau a’u bod yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhywbeth amheus yn yr ardal.