Mae tri dyn wedi ymddangos gerborn llys ar gyhuddiad o lofruddio dyn o Bort Talbot.

Roedd corf David John Eves, 43 oed, o Sandfields, Port Talbot wedi ei ddarganfod mewn tŷ ym Mhentyla fore dydd Gwener.

Roedd Paul David Evans, 49, Shaun William Rogers, 24, a William Desmond Rogers, 45, wedi ymddangos gerbron ynadon Castell-nedd heddiw ar gyhuddiad o lofrddio David Eves rhwng 8 Chwefror a 11 Chwefror.

Cafodd y tri eu harestio ddydd Gwener a’u cadw yn y ddalfa dros y penwythnos. Fe gawson nhw eu cyhuddo yn hwyr neithiwr.

Mae disgwyl i’r tri ymddangos gebrorn Llys y Goron Abertawe ar 21 Chwefror.