Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl lladrad arfog mewn tafarn yng Ngronant, Sir y Fflint.

Fe ddigwyddodd y lladrad tua 11pm nos Sul, 12 Chwefror  ar ôl i bump o ddynion yn gwisgo mygydau, un gyda morthwyl ac un arall â charn tro olwynion, fygwth staff yn nhafarn y Bells of St Mary’s, yn Ffordd Mostyn, yng Ngronant.

Chafodd neb eu hanafu yn ystod y lladrad ond fe lwyddodd y dynion i ddianc gyda swm sylweddol o arian.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i’r ffonio ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.