Mae tri dyn  wedi cael eu cyhuddo o lofruddio yn dilyn ymchwiliad i farwolaeth dyn 43 oed ym Maglan, Port Talbot.

Cafodd corff David John Eves ei ddarganfod mewn tŷ ym Mhentyla fore dydd Gwener.

Mae tri dyn 25, 45 a 49 oed yn cael eu cadw yn y ddalfa ac fe fyddan nhw’n mynd gerbron llys ynadon Castell-nedd heddiw.

Dyweodd y Ditectif Prif Arolygydd Dorian Lloyd sy’n arwain yr ymchwiliad i’r llofruddiaeth: “Er bod tri dyn wedi cael eu cyhuddo rydan ni’n parhau i annog unrhyw un yn y gymuned sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu.

“Rydyn ni’n awyddus iawn i glywed gan unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhyw beth amheus yn ardal Pentyla ym Maglan nos Iau, (9 Chwefror) ac yn ystod oriau mân bore dydd Gwener (10 Chwefror).

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.