Meirion Prys Jones
Mae Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dweud bod y Gymraeg yn marw fel iaith gymunedol.
Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Politics BBC Cymru dywedodd Meirion Prys Jones bod y nifer sy’n gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu, ond bod gostyngiad wedi bod yn y nifer sy’n ei defnyddio.
“Rwy’n credu fod yr iaith yn tyfu mewn rhai ffyrdd, ond fel iaith gymunedol, mae’n marw,”meddai.
Ac fe ychwanegodd fod rhaid cael buddsoddiad o ran syniadau ac arloesi er mwyn sicrhau chwarae teg i’r iaith.
Mae Meirion Prys Jones yn pryderu pwy fydd yn arwain y gwaith creadigol ynglŷn â’r iaith ar ôl i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ddiflannu ym mis Ebrill eleni.
“Pwy o fewn y cylchoedd gwleidyddol a’r gwasanaeth sifil fydd yn dweud yn ymarferol bod angen i ni wneud rhywbeth am yr iaith Gymraeg, mae mewn argyfwng, sut ydym am ei hyrwyddo?
“Gallwch gael gymaint o ddeddfwriaeth ag y dymunwch, gallwch gael gymaint o bolisïau ag y dymunwch, ond oni bai eich bod yn mynd allan ymysg y bobl a’u darbwyllo bod yr iaith yn ddefnyddiol iddyn nhw, yna does dim gobaith yn fy marn i.”
Meddai llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru, “Mae’r Llywodraeth yn benderfynol o weld y Gymraeg yn ffynnu.”
Bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ei strategaeth iaith Gymraeg ar Ddydd Gŵyl Dewi, deg mlynedd ar ôl y strategaeth bresennol, ‘Iaith Pawb.’