Mae dynes wedi marw yn dilyn damwain ffordd yn hwyr neithiwr.

Roedd y ddynes yn gyrru car Peugeot 206 du ar hyd Ffordd Newydd, (New Road), Cwmfelinfach, Sir Caerffili am 11.00 neithiwr pan darodd y car yn erbyn postyn lamp.

Dioddefodd anafiadau i’w phen ac aethpwyd â hi, ynghyd â theithiwr yn y car, i Ysbyty Frenhinol Gwent yng Nghasnewydd, lle cyhoeddwyd heddiw ei bod wedi marw.

Mae’r teithiwr, oedd wedi derbyn mân anafiadau,wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty erbyn hyn.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion i’r ddamwain. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r Heddlu ar y rhif 101.