Mae pump o bobl wedi cael eu hanafu mewn damwain ffordd ddifrifol ger Caernarfon neithiwr.
Digwyddodd y ddamwain ar ffordd rhwng pentrefi Bontnewydd a Rhostryfan yng Ngwynedd.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, bu tractor a dau gar mewn gwrthdrawiad toc ar ôl 6.00 yr hwyr.