Mae tri dyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff dyn 43 oed gael ei ddarganfod yn ardal Port Talbot.

Cafodd yr Heddlu eu galw i eiddo ym Mhentyla, Baglan, am 8.06 bore ddoe, lle ddaethon nhw o hyd i gorff David John Eves o Sandfields.

Mae’r Heddlu’n trin y farwolaeth fel un amheus.

Mae’r tri dyn sydd wedi cael eu harestio yn 24, 45 a 49 oed.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r Heddlu ar 101 neu Daclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.