Mae naw dyn – gan gynnwys tri o Gaerdydd – wedi cael eu carcharu am fod yn rhan o grŵp terfysgol oedd wedi cynllwynio i fomio’r Gyfnewidfa Stoc yn Llundain a sefydlu gwersyll hyfforddi terfysgwyr ym Mhacistan.

Yn Llys y Goron Woolwich prynhawn ma, cafodd y ddau frawd Gurukanth Desai, 30 oed, o Stryd Albert yng Nghaerdydd ei garcharu am 12 mlynedd, ac Abdul Miah, 25 oed o Heol Parc Ninian, ei garcharu am 16 mlynedd a 10 mis.  Roedd y ddau wedi pledio’n euog i gynllunio i osod dyfais ffrwydrol yn nhoiledau’r Gyfnewidfa Stoc.

Bydd Omar Latif, 28 oed o Stryd Neville, Caerdydd yn treulio 10 mlynedd a 4 mis dan glo.

Cafodd Mohammed Shahjahan, 27, o Stoke on Trent ei garcharu am isafswm o wyth mlynedd a deg mis, a bydd Usman Khan, 20, a Nazam Hussain, 26, hefyd yn gorfod treulio wyth mlynedd dan glo.

Cafodd  Mohibur Rahman ddedfryd o 5 mlynedd,  Shah Rahman, 12 mlynedd; a Mohammed Chowdhury  13 mlynedd, 8 mis.

Roedd y grŵp i gyd wedi pledio’n euog i sawl trosedd yn ymwneud â therfysgaeth cyn i’w hachos gychwyn yn Llys y Goron Woolwich.

Cyfarfod yn y Rhath

Roedd y dynion wedi ffurfio’r grŵp mewn cyfarfod yn y Rhath, Caerdydd ar 7 Tachwedd 2010 ac wedi dechrau cynllwynio i fomio sawl safle pan gawson nhw eu harestio ar 20 Rhagfyr 2010.

Bwriad y grŵp, gafodd eu hysbrydoli gan Al Quaida,  oedd anfon bomiau drwy’r post at sawl person ar restr o dargedau yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig 2010. Cafwyd hyd i restr o dargedau yng nghartref un o’r diffynyddion – yn eu plith roedd Maer Llundain Boris Johnson, dau rabi, Llysgenhadaeth yr UDA yn Llundain a’r Gyfnewidfa Stoc.