Nid llygredd sydd ar fai am farwolaethau cocos ym Mornant Porth Tywyn, yn ôl ymchwiliad manwl a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru sydd wedi para tair blynedd.

Cyfuniad o barasitiaid, gorboblogi, ac amgylchedd y cocos sy’n cael y bai am farwolaethau’r cocos.

Y cam nesaf fydd i’r diwydiant ddod at ei gilydd gyda Llywodraeth Cymru i drefnu cynllun rheoli, er mwyn diogelu dyfodol y cocos.

Roedd yr ymchwiliad wedi edrych ar bob achos posib ar gyfer y pla sydd wedi effeithio’r diwydiant cocos yn yr ardal ers 2002.

Yn dilyn yr ymchwiliad, mae arbenigwyr o Brifysgol Hull wedi diystyru’r mwyafrif o’r achosion posib eraill.

Croesawu’r Adroddiad

“Mae’r adroddiad yn gam arall yn ein hymdrechion i ailsefydlu ardal bysgota cocos Mornant Porth Tywyn yn ddiwydiant cynaliadwy a chynhaliol i’r bobl sy’n pysgota yma,” dywedodd Chris Mills, Cyfarwyddwr Asiantaeth Amgylchedd Cymru.

“Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried argymhellion yr adroddiad yn llawn, ac yn gweithio yn agos gydag Asiantaeth Amgylchedd Cymru a chymunedau lleol er mwyn  sicrhau rheolaeth barhaol a chynaliadwy i welyau’r cocos,” dywedodd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru.

“Rwy’n croesawu’r adroddiad,” dywedodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaeth, Bwyd a Physgodfeydd.

“Mae’n newyddion da nad safon y dŵr sydd ar fai, gan fod hynny’n golygu ein bod ni gam yn nes at ddarganfod gwraidd yr achosion sy’n lladd y cocos.”