Trystan Griffiths
Mae’r perfformiwr clasurol ifanc Trystan Llŷr Griffiths, a gyrhaeddodd y rhestr fer yn y gyfres Llais i Gymru ar S4C nos Fawrth, wedi dweud nad yw’n siomedig ei fod heb gael cytundeb recordio gyda Decca Records.

Ond dywedodd Trystan Griffiths o Glunderwen, Sir Benfro  ei fod yn edrych ymlaen at ddatblygu ei yrfa gerddorol wrth iddo dderbyn cefnogaeth gan Decca.

“Ro’n i wrth fy modd gyda’r newyddion gan Decca, a dwi ddim wedi siomi o gwbl oherwydd fy mod i heb gael cytundeb recordio. Doedd dim cadarnhad bod un ohonom ni i gael cytundeb – does neb yn medru derbyn un dros nos!” meddai.

Trafod y dyfodol

Fe gyrhaeddodd Trystan y rhestr fer yn y gyfres Llais i Gymru, ynghyd â Lisa Angharad, Rhiannon Herridge a James Williams. Er nad yw Trystan wedi sicrhau cytundeb, o’r chwe chant o ymgeiswyr gwreiddiol, Trystan sydd wedi cael ei wahodd i gwrdd â phenaethiaid y cwmni recordiau i drafod ei ddyfodol.

Dwi ddim yn hollol siŵr beth sydd gan Decca mewn golwg ynghylch fy ngyrfa.  Dwi am gwrdd â nhw cyn gynted ag sy’n bosib,” meddai Trystan, a raddiodd mewn Cerdd a Chyfryngau ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant.  Mae nawr yn astudio am radd Meistr mewn Canu yn yr Academi Frenhinol yn Llundain.

“Dwi’n hyderus eu bod nhw am fod yn asgwrn cefn i mi tra fy mod yn datblygu fy ngyrfa ganu, felly mae hi’n adeg gyffrous iawn i mi.

“Mae’n gymaint o ganmoliaeth fod cwmni mor llwyddiannus â Decca yn dangos diddordeb yndda i.  Fe fydd hi’n broses hir er mwyn iddyn nhw ddod i fy nabod yn well.

“Dwi wedi dysgu ambell i beth newydd ar ôl bod ar Llais i Gymru – dwi ’di dysgu sut i ddisgyblu fy hun er mwyn ymdopi gyda phopeth.  Dwi’n falch fy mod i wedi cael cyfle a dwi ddim yn bwriadu parhau gyda’m swydd ran-amser adref yn ffitio drysau garej – mae’r broses wedi rhoi’r hyder i mi geisio am yrfa canu yn ddifrifol,” esbonia Trystan, a enillodd Ysgoloriaeth W Towyn Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011.

‘Gyrfa ddisglair’

Ar banel Llais i Gymru roedd yr asiant Sioned James, Rheolwr Gyfarwyddwr Mark Wilkinson a Phennaeth A&R Tom Lewis o gwmni Decca.

Yn ôl Mark Wilkinson a Tom Lewis bu’r broses yn llwyddiant diamheuol ac roedd canmoliaeth i’r pedwar.  Ond Trystan ddenodd y sylw mwyaf gyda’i lais cryf a’i bersonoliaeth gynnes a delwedd hyfryd.  Roedd y panel yn gytûn fod y cyfuniad yma yn golygu fod ganddo botensial am yrfa ddisglair ar lwyfan ac mewn stiwdio recordio.

“Rydyn ni’n ymfalchïo yn Llais i Gymru ac wedi mwynhau’r toreth o dalent o Gymru, sydd yn Wlad y Gân i gymaint o bobl,” meddai Mark Wilkinson, Rheolwr Gyfarwyddwr Decca.  “Mae Trystan yn berfformiwr cyffrous, ac rydyn yn awyddus i osod platfform a chynsail cadarn iddo barhau i ddatblygu.”

Bu’r ymgeiswyr yn cymryd rhan mewn amryw o dasgau a gweithgareddau trwy gydol y gyfres, megis sesiwn leisiol gyda’r athro canu Ian Baar, sesiwn lwyfannu gyda seren Strictly Come Dancing Camilla Dallerup, a pherfformiad cyhoeddus ochr yn ochr ag enillydd X Factor, Joe McElderry.

Fe ddaeth y gyfres i uchafbwynt pan berfformiodd y pedwar ar lwyfan Under the Bridge yn ardal Chelsea, Llundain, o flaen cynulleidfa ddethol yn ogystal â’r panel.