Simon Thomas
Mae Simon Thomas wedi tynnu allan o’r ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru heddiw.

Gwnaeth yr Aelod Cynylliad dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru y cyhoeddiad am hanner dydd heddiw yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl mis gweddol siomedig i’r Aelod Cynulliad, sydd wedi bod ymhell tu ôl yn llygaid y bwcis ers y dechrau.

Mae’r Aelod Cynulliad bellach yn dweud ei fod yn rhoi ei gefnogaeth i Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, yn y ras i fod yn arweinydd nesaf y blaid.

Wrth roi ei gefnogaeth i Elin Jones, bydd Simon Thomas nawr yn rhedeg y ras ar y cyd â hi – sy’n golygu os bydd Elin Jones yn cael ei hethol yn arweinydd, bydd Simon Thomas yn ymuno â’i thîm fel dirprwy-arweinydd y blaid.

Ail-wynt

Mae cwmni betio Paddy Power bellach wedi rhoi Elin Jones a Leanne Wood ar ods cyfartal o 6/5. Roedd Elin Jones wedi bod yn ffefryn i ennill yn gynharach yn y ras, cyn llithro tu ôl i Leanne Wood yn ddiweddar, wrth i enwau blaenllaw’r blaid fel Adam Price a Dafydd Iwan roi eu cefnogaeth iddi.

Ond heddiw mae cyhoeddiad Simon Thomas wedi rhoi ail-wynt i ymgyrch Elin Jones, gan roi’r ddwy ddynes yn y ras dipyn ar y blaen yn llygaid y bwcis i’r unig ŵr sydd ar ôl, sef yr Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionydd, Dafydd Elis-Thomas.

Bydd Golwg 360 yn dod â mwy o wybodaeth am y penderfyniad wrth iddo’n cyrraedd ni.