Sharon Morgan
Mae’r actores Sharon Morgan yn dweud ei bod wedi ail-ymuno â Phlaid Cymru er mwyn cefnogi ymgyrch Leanne Wood am yr arweinyddiaeth.

Mae’r actores – sydd wedi ymddangos ar gyfres Torchwood a ffilmiau Martha, Jac a Sianco, a Resistance, gyda Michael Sheen – yn dweud bod gan Leanne Wood weledigaeth gyffrous iawn ar gyfer y blaid.

Mae Sharon Morgan wedi bod yn ymgyrchydd brwd dros yr iaith ers blynyddoedd lawer, cyn ac yn ystod ei gyrfa fel actores.

Dywedodd heddiw fod Leanne Wood yn apelio at ei egwyddorion “sosialaidd a gweriniaethol” a’i bod wedi ysgogi’r actores i ail-ymuno â’r Blaid eleni.

‘Cyffrous’

“Dwi’n teimlo bod gweledigaeth Leanne, nid yn unig ar gyfer Cymru, ond ar gyfer lle Cymru yn y byd, yn gyffrous a thrawiadol, ac yn adlewyrchu ehangder meddylfryd gwleidyddol,” meddai.

Dywedodd Sharon Morgan fod Leanne Wood yn “gwerthuso cyflwr truenus cyfalafiaeth yr unfed ganrif ar hugain,” ond ei bod hefyd yn “cynnig atebion” i’r argyfwng.

“Tra bod y glymblaid yn Llundain yn benderfynol o danseilio’r union werthoedd hynny sy’n rhan o’n DNA ni yma yng Nghymru, y Blaid Lafur yn ymddangos yn gwbl analluog i amddiffyn ei hegwyddorion sylfaenol honedig,  a gwleidyddion yn ymhyfrydu mewn sgorio mân bwyntiau pleidiol, mae’n hyfrytwch pur clywed Leanne yn siarad yn blaen, ac yn credu beth mae’n gweud!” meddai Sharon Morgan.

“Mae’n fy llwyr argyhoeddi i bod pob polisi mae’n cofleidio wedi ei seilio ar integriti ac angerdd.”

‘Symud ymlaen’

Ond rhybuddiodd Sharon Morgan heddiw y byddai hi’n “beryglus” i Gymru sefyll yn ei hunfan nawr.

“Mae Leanne yn ifanc, ac mae’n edrych i’r dyfodol,” meddai.

“Dwi’n teimlo bod gwir angen i Gymru, yn ogystal â Plaid, mwy nag unrhyw adeg arall yn ein hanes diweddar, symud ymlaen.”

Cyn-actores Pobol y Cwm yn cefnogi

Mae un o gyn-actoresau Pobol y Cwm hefyd wedi rhoi ei chefnogaeth i ymgyrch Leanne Wood heddiw, oherwydd ei “hangerdd, uchelgais ac egni”.

Dwi’n credu ei bod hi’n ysbrydoli llawer o bobol,” meddai Shelley Rees-Owen, oedd yn arfer chwarae rhan y cymeriad Stacey Jones yn y gyfres sebon.

“Mae hi’n ysbrydoli’r  hen a’r ifanc, y siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg, a dwi’n credu bod pobol yn ymddiried ynddi,” meddai.

Mae Shelley Rees-Owen bellach wedi cyhoeddi y bydd hi’n sefyll yn yr etholiad dros Blaid Cymru ar gyfer ward Pentre, Rhondda Cynon Taf ym mis Mai eleni.