Mae hi wedi dod i’r amlwg heddiw fod Cyngor Gwynedd wedi ceisio atal rhaglen y Byd ar Bedwar rhag darlledu cyhuddiadau yn ei erbyn.

Yr wythnos diwethaf, cafodd y Byd ar Bedwar ei bygwth gyda gorchymyn cyfreithiol i’w gwahardd rhag darlledu cwynion ynglŷn â Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor.

Mae’r rhaglen, sydd i’w darlledu heno, yn cynnwys cyhuddiadau gan deulu dynes a gafodd ei charcharu am roi methadone i’w babi, fod Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd wedi ceisio cuddio cyfres o gamgymeriadau wrth ddelio â’r achos.

Mae’r teulu yn mynnu bod gweithwyr cymdeithasol wedi anwybyddu rhybuddion fod y fam, Nia Wyn Jones, a’i phlant, mewn perygl.

Ond yn ôl y Cyngor, mae’r rhaglen yn bygwth niweidio plant Nia Wyn Jones, a datgelu eu hunaniaeth.

Yr wythnos diwethaf fe dderbyniodd y Byd ar Bedwar lythyr gan gyfreithwyr Cyngor Gwynedd, yn dweud eu bod yn poeni y gallai hunaniaeth y plant gael eu datgelu ac yn bygwth mynd â nhw i’r llys petai nhw’n bwrw mlaen â darlledu’r rhaglen.

Roedd rhaglen heno i fod i gael ei darlledu nos Lun diwethaf, ond bu’n rhaid gohirio’r rhaglen tan heno wrth i’r Byd ar Bedwar ddelio gyda llythyr y cyfreithwyr. Er hynny, mae’r Byd ar Bedwar yn dweud na fu’n rhaid newid unrhyw beth yn sylfaenol er mwyn darlledu’r rhaglen heno.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud heddiw fod y Byd ar Bedwar wedi cael eu “darbwyllo” i “beidio â chynnwys un achos ac i gyfyngu manylion am achos arall” er mwyn “gwarchod buddiannau’r plant hyn.”

‘Pryderon y cyngor’

Yn ôl y Cyngor, pryder dros ddatgelu gormod o fanylion am y plant yng ngofal y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd y rheswm iddyn nhw anfon llythyr cyfreithiol at y Byd ar Bedwar – “i amlinellu ein pryderon ac i ddatgan y byddem yn cymryd camau cyfreithiol pe bai angen i amddiffyn yr unigolion hyn a oedd dan ein gofal.”

Ond mae’r Cyngor yn dweud “na lwyddwyd i ddwyn perswâd ar y cynhrychwyr i beidio cynnwys rhai manylion a allai achosi niwed i fuddiannau’r unigolion sydd ynghlwm â’r achos.”

Mae’r Cyngor yn dweud eu bod nhw “eisoes wedi trafod ein pryderon ynglŷn ag amddiffyn hawliau plant bregus i breifatrwydd o ran ymholiadau gan y cyfryngau gyda swyddfa’r Comisiynydd Plant,” ac y byddan nhw’n “parhau i drafod gyda Swyddfa’r Comisiynydd yng ngoleuni penderfyniad Y Byd ar Bedwar i fwrw ymlaen i ddarlledu rhaglen am achos penodol.”

Mae cynhyrchwyr Y Byd ar Bedwar yn mynnu eu bod wedi cymryd camau priodol i warchod buddiannau unrhyw blant dan sylw.

Tad yn beirniadu

Yn y rhaglen heno bydd tad y fam i dri, John Huw Jones, yn rhybuddio pobol i fod yn wyliadwrus iawn cyn rhoi eu ffydd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

“Mae pobol sy’n mynd at y Gwasanaethau Cymdeithasol yn mynd atyn nhw am help,” meddai.

“Ond credwch ni pan ydyn ni’n dweud na chawson ni ddim help wrthyn nhw. Y cyfan r’yn ni wedi ei gael yw cyhuddiadau yn erbyn y teulu.”

Cafodd Nia Wyn Jones, o Gaernarfon, ei harestio ar ôl i staff Ysbyty Gwynedd ddarganfod fod gan y plentyn, sy’n cael ei adnabod fel ‘Plentyn 2’, lefelau uchel o Methadone yn ei gwaed.

Cafodd Nia Wyn Jones ei hanfon i’r ysbyty dair gwaith cyn i staff ddechrau amau bod rhywbeth o’i le.

Mae ei thad yn dal yn flin am y cyhuddiadau yn erbyn y teulu.

“Cefais i fy nghyhuddo gan y gweithiwr cymdeithasol o wybod beth oedd wedi bod yn digwydd gyda Nia a’r babi.

“Ond os oedd y doctoriaid wedi ei golli tair gwaith yn olynol, sut oeddwn i fod i wybod beth oedd hi wedi’i wneud?”

Mae’r ddau blentyn hynaf nawr yn byw yn rhywle arall, a dim ond dan arolygaeth y caiff John Huw Jones a’i wraig weld eu hwyron.

Cafodd Nia Wyn Jones ei chracharu ym mis Chwefror 2010 am fwydo Methadone i’w babi chwe mis oed ond cafodd ei rhyddhau y llynedd am ymddygiad da.

Mae Methadone yn cael ei ddefnyddio gan ddefnyddwyr heroin, fel cyffur dros dro i geisio’u cael nhw oddi ar heroin.

Cafodd tad y babi, Grant Yuill o Borthmadog, ei garcharu am wyth mlynedd fis Mehefin diwethaf am y drosedd.

Beirniadu’r Gwasanaethau Cymdeithasol

Nid dyma’r tro cyntaf i Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd gael eu beirniadu.

Yn ôl ym mis Tachwedd y llynedd, daeth Adolygiad Blynyddol yr Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r casgliad fod perfformiad y Cyngor ym maes gwasanaethau plant a’r henoed yn isel iawn o’u cymharu â mwyafrif Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Roedd yr adroddiad yn dweud fod y “risg” i blant Gwynedd yn uwch nag unman arall drwy’r wlad, oherwydd methiant gweithwyr cymdeithasol wrth wneud penderfyniad ynglŷn â sut i amddiffyn plant sy’n cael eu cyfeirio atyn nhw o fewn 24 awr.

Bydd rhaglen y Byd ar Bedwar yn cael ei darlledu heno am 9.30pm ar S4C.