John Walter Jones
Mae Cadeirydd Awdurdod S4C wedi dweud nad oes modd gwneud dim byd am y cwymp yn y nifer sy’n gwylio’r sianel deledu.

Yr wythnos ddiwetha’ datgelodd Golwg fod 116,000 yn llai wedi gwylio’r sianel y llynedd, o gymharu â 2008.

Yn yr oes ddigidol, mae gwylwyr teledu yn derbyn degau o sianelau gwahanol i’w cartrefi sydd, yn ôl John Walter Jones, yn rhwym o olygu llai yn gwylio S4C.

“Tydan ni ddim yn edrych ar sianelau heddiw fel yr oedden nhw pan ddechreuodd S4C,” meddai.

Yn 2008 roedd 665,000 wedi gwylio’r sianel yn wythnosol, o gymharu â 549,000 y llynedd.

“Mae’r ffigwr am 2008 yn ffigwr sy’n adlewyrchu rhaglenni Cymraeg a Saesneg ar S4C,” meddai John Walter Jones. “Mae ffigwr 2009 yn adlewyrchu’r broses o newid yn sianel Gymraeg.”

Oherwydd hyn mae hi’n “annheg” cymharu ffigyrau gwylio wythnosol y sianel ar gyfer 2008 a 2009, yn ôl John Walter Jones. “Mae dweud fod yna 100,000 yn llai o wylwyr yn gamarweiniol,” meddai.