Rhuanedd Richards
Mae Plaid Cymru yn dweud bod eu hymgyrch i ddenu aelodau newydd er mwyn pleidleisio dros arweinydd newydd wedi bod yn lwyddiant ysgubol.

 Dywedodd llefarydd bod eu haelodaeth wedi codi 23.4% yn y pedwar mis ers iddyn nhw lansio’r ymgyrch i ddenu aelodau newydd i’r blaid – sef cynydd o tua 1,500 o aelodau.

 Pan lansiwyd yr ymgyrch yn ôl ar 17 Hydref 2011, roedd aelodaeth Plaid Cymru o gwmpas 6,300, erbyn hanner nos neithiwr roedd y nifer hwnnw wedi codi i 7,863.

Roedd y terfyn hanner nos yn cyd-fynd â’r dyddiad cau ar gyfer enwebu ymgeiswyr ar gyfer dewis arweinydd newydd Plaid Cymru.

 Fe fydd pob un o’r aelodau hen a newydd hyn nawr yn cael y cyfle i bleidleisio dros eu harweinydd newydd – gyda phleidlais bost fydd yn cael ei dosbarthu i aelodau wedi i’r mis o hystings ddod i ben ddiwedd Chwefror.

 Bydd gan aelodau wedyn tan Mawrth 15 i ddychwelyd eu pleidlais bost i’r Blaid.

Y dull o ethol

 Bydd arweinydd nesaf Plaid Cymru yn cael ei ethol trwy ddull y bleidlais amgen, lle bydd aelodau Plaid Cymru yn cael y cyfle i restru eu dewis yn ôl ffefrynnau – gyda’r posibilrwydd o flaenoriaethau pwy fyddan nhw eisiau ei weld fel arweinydd newydd gan roi ‘1’ wrth eu hoff ddewis, ac yna ‘2’, ‘3’ a ‘4’ wrth eu hail, trydydd a phedwerydd dewis.

Trwy ddefnyddio’r bleidlais amgen yma, os fydd dewis rhif ‘1’ yr aelod yn dod yn olaf yn y cyfri cyntaf, ac yn cael ei daflu allan o’r ras, fe fydd dewis rhif ‘2’ yn cael ei gyfrif yn y rownd ddilynol.

 Neu mae’n bosib i bobol rhoi ‘1’ wrth eu hoff ddewis a gadael y tri arall yn wag.

Dywedodd Prif Weithredwr y Blaid, Rhuanedd Richards, bod y cynnydd yn yr aelodaeth yn brawf bod dyfodol Cymru yn bwysicach nag erioed i bobol.

“Mae’n glir bod ein haelodau hen a newydd wedi eu huno gan weledigaeth ar gyfer yr hyn y gellir ei gyflawni, gyda’n gilydd ar gyfer pobl Cymru,” meddai.

“Mae ein aelodau ar lawr gwlad yn ran annatod o Plaid Cymru. Nhw yw’r bobol sydd yn mynd i helpu i symud y Blaid ymlaen a chyfathrebu ein gweledigaeth bositif yn eu cymunedau ar draws Cymru.

“Rydym yn hynod falch o groesawu cymaint o aelodau newydd ac yn edrych ymlaen i gyd-weithio gyda hwy i helpu Cymru flodeuo a chyrraedd ei photensial dros y blynyddoedd nesaf.”