Mae undeb cenedlaethol athrawon Cymru yn dweud eu bod nhw wedi eu cythruddo gan y ffordd y mae awdurdod addysg Ceredigion yn ystyried ad-drefnu addysg ôl-16 yn y sir.

Datgelodd Golwg 360 heddiw fod yr awdurdod addysg lleol yn bwriadu cydlynu addysg Safon Uwch mewn pedair ysgol yng nghanol y sir, gan olygu y byddai rhai pynciau lefel A ac AS yn cael eu canoli i un o’r bedair ysgol.

Byddai hyn yn golygu bod yn rhaid i rai disgyblion deithio hyd at awr, un ffordd, er mwyn cyrraedd rhai gwersi.

Dydi’r cynlluniau ddim wedi cael eu cymeradwyo gan Cabinet y Cyngor Sir eto, ond mae disgyblion o leia’ un o’r bedair ysgolion wedi derbyn llythyr yn nodi y bydd rhai pynciau yn cael eu dysgu mewn ysgolion eraill.

Dim ymgynghoriad

Yn ôl Cyfarwyddwr Addysg y Sir, Eifion Evans, penderfyniad y penaethiaid oedd hysbysu’r disgyblion ynglŷn â hyn, er bod y cynllun “dal yn ifanc iawn yn ei ddatblygiad.”

Dywedodd Eifion Evans wrth Golwg 360 fod y cynllun wedi cael ei ffurfio ar sail trafodaeth gyda phenaethiaid y bedair ysgol, sef ysgolion uwchradd Aberaeron, Dyffryn Teifi, Llambed a Thregaron, a phennaeth Coleg Ceredigion.

Ond does dim ymgynhoriad wedi bod gydag athrawon na disgyblion hyd yn hyn, yn ol UCAC.

‘Cythruddo’

Dywedodd Unceb Cenedlaethol Athrawon Cymru, UCAC, heddiw eu bod wedi eu “cythruddo gan y ffordd gudd ac ansensitif y mae’r Awdurdod wedi mynd ati i wneud y newidiadau hyn.”

Gwrthod yr honiad hyn y mae Eifion Evans, gan ddweud fod “penaethiaid pob un o’r ysgolion yng nghlwm â’r broses,” ac mai’r “unig drafodaethau sydd wedi bod hyd yn hyn yw a fydd hi’n bosib cydweithio ar rai pynciau.”

Yn ôl Eifion Evans, mae ymateb UCAC yn dangos “diffyg ymwybyddiaeth llwyr o’r ffeithiau” a’u bod yn “codi bwganod yn ddiangen.”

‘Swyddi yn y fantol’

Ond rhybuddiodd llefarydd ar ran UCAC heddiw y byddai’r cynllun yn golygu “newid natur cyrsiau disgyblion Blwyddyn 12,” a bod swyddi athrawon yn y fantol.

“Mae’n debygol o olygu diswyddiadau i athrawon,” meddai, “ac eto nid yw’r Awdurdod wedi ymgynghori o gwbl â nhw, na hyd yn oed wedi mentro mynd i’r ysgolion i esbonio’r newidiadau posib.”

Ond gwrthod hyn i gyd y mae’r Cyfarwyddwr Addysg, gan ddweud na fydd hyn yn arwain at unrhyw doriadau staff.

“Petawn ni ddim yn gwneud hyn fe fyddai rhai o’r cyrsiau hyn ddim ar gael,” meddai Eifion Evans.

“Y cyfan r’yn ni’n neud yw symud llond llaw o gyrsiau at ei gilydd, cyrsiau fyddai fwy na thebyg ddim yn gallu cael eu rhedeg o fis Medi ymlaen fel arall.

“Does dim synnwyr yn y byd i gael cwrs yn rhedeg sydd â dim ond un disgybl yn ei astudio,” meddai.

“Ar ddiwedd y dydd, r’yn ni ond yn siarad am llond llaw o gyrsiau,” meddai.

Mae UCAC nawr wedi galw am gyfarfod brys gyda Chyfarwddwr Addysg Ceredigion, ynghyd ag undebau eraill.