Mae cwmni o Lundain wedi addo anfon tocyn parcio dwyieithog at ddyn yng Ngwynedd, ar ôl iddo wrthod talu dirwy o £65 am ei bod yn  uniaith Saesneg.

Yr wythnos ddiwetha’ fe gafodd Noel Jones o Benrhyndeudraeth sylw ym mhapurau newydd y Daily Mail, y Daily Telegraph a’r Daily Star am ei fod yn mynnu cael tocyn parcio yn y Gymraeg.

Fe gafodd y gyrrwr lorïau docyn parcio uniaith Saesneg gan gwmni Flashpark ar Ragfyr 15, am barcio un o lorïau Cyngor Gwynedd ym maes parcio Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth, sy’n eiddo preifat.

Ar ôl sylw cenedlaethol a Phrydeinig, mae’r cwmni wedi cadarnhau wrth Golwg eu bod yn bwriadu anfon tocyn yn Gymraeg a Saesneg at Noel Jones –  fel “arwydd o ewyllys da.”

‘Ewyllys da’

“Fel arwydd o ewyllys da, rydym wedi cytuno i ddarparu cyfieithiad,” meddai Costas Constantino o gwmni Flashpark.

Ond ni fydd y cwmni yn anfon tocynnau dwyieithog at bawb yng Nghymru yn y dyfodol – dim ond i’r rhai sy’n gofyn am docyn dwyieithog, meddai Costas Constantino.

“Os ga’ i [docyn parcio] yn Gymraeg, mi dala’ i o,” meddai Noel Jones, sy’n byw ym Mhenrhyndeudraeth ers dros 30 o flynyddoedd ac yn siomedig fod pwyllgor y neuadd wedi defnyddio cwmni o Lundain i godi dirwyon am barcio yno.

Yn ôl Ysgrifennydd Pwyllgor Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth – mae pwyllgor y neuadd wedi chwilio am gwmni parcio Cymraeg, ond doedd dim un ar gael.

Darllenwch y stori’n llawn yng Nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.