Bydd calon goch enfawr yn dosbarthu cardiau Santes Dwynwen “yn rhad ac am ddim” i siopwyr yn Asda, Lecwydd, Caerdydd heddiw, meddai Menter Caerdydd sydd wedi trefnu’r weithgaredd.

Am 12pm bydd y galon yn ymweld â siop Ann Summers yng nghanol y dref, ac yn hwyrach yn y prynhawn bydd yn cyflwyno carden a rhosyn i brif weithredwr Cyngor Caerdydd, Jon House.
Menter Caerdydd sydd wedi trefnu’r gweithgareddau Santes Dwynwen, ac mae’r Fenter hefyd wedi bod yn annog trigolion Caerdydd i enwebu eu cariadon ar gyfer ‘Dwynwen-o-gram’ – rhodd ramantus o champagne a blodau – fydd yn cael ei gwobrwyo ar brynhawn Diwrnod Santes Dwynwen.

“Roeddem yn awyddus i ddathlu’r ŵyl draddodiadol Gymreig hon yng Nghaerdydd gyda chyfres o weithgareddau,” meddai Siân Lewis, Prif Swyddog Menter Caerdydd.

“Bydd y galon drawiadol, ynghyd â’r cardiau cyfarch sy’n rhoi hanes Santes Dwynwen, yn sicr o ddwyn sylw at yr achlysur a, dwi’n gobeithio, yn tanio ychydig o awydd am ramant yng nghalonnau pobl hefyd.”

Bydd y cardiau’n cael eu dosbarthu am 10.30am ddydd Mercher 25 Ionawr, i ddathlu dydd y cariadon.