Canolfan Gymraeg Wrecsam
Mi fydd y Saith Seren yn agor yn swyddogol Ddydd Sadwrn fel Canolfan Gymraeg newydd i Wrecsam, meddai’r Cadeirydd heddiw.

Daw hyn gwta chwe mis ar ôl lansio apêl am arian yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gyda chymorth ariannol, mae’r Ganolfan “wedi cyrraedd eu targed ariannol cyntaf” sef codi digon o arian i agor y bar a’r gegin er mwyn medru agor y ganolfan.

Y cam nesaf fydd adnewyddu’r adeilad fyny grisiau a’i agor fel swyddfeydd ar rent ac ystafelloedd cyfarfod/dosbarthiadau nos (yn enwedig ar gyfer dysgwyr), meddai gan egluro bod  disgwyl y bydd hyn wedi ei gwblhau cyn mis Mehefin.

‘Angen rhagor o gymorth’

Bydd cronfa cyfranddaliadau newydd yn cael ei agor gyda prosbectws newydd yn y mis nesaf.

Ond, er mwyn i’r fenter lwyddo, mae’n pwysleisio bod angen rhagor o gymorth – yn ariannol ac o ran defnyddio’r ganolfan.

“Mae’r noson gyntaf eisoes wedi gwerthu allan o docynnau ond bydd angen cynnal y momentwm yma wedi’r penwythnos gyntaf,” meddai Marc Jones.

Bydd y bar yn agor heddiw a bydd bwyd ar gael o ddydd Iau ymlaen a bydd Gwibdaith Hen Frân yn chwarae nos Wener.