Simon Thomas
Mae angen ailedrych ar y ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu fel pwnc ail iaith yn ein hysgolion. Dyna farn yr Aelod Cynulliad Simon Thomas.

Mae’n dweud nad yw’r system bresennol yn gweithio.

“Mae’r rhan fwyaf o blant Cymru yn gadael ysgol heb ddeall dim ar iaith gynhenid y wlad a dw i’n meddwl bod hynny’n siom.

“Dw i’n meddwl bod rhaid i’r blaid fod yn llawer mwy clir ynglyn a throi’r system addysg i fod yn un lle mae’r Gymraeg yn rhan o be mae plant yn dysgu mewn ysgolion yng Nghymru fel Mathemateg, neu Saesneg neu be bynnag, un o’r pynciau craidd hynny sydd yn hanfodol i wlad ddwyieithiog,” meddai.

Simon Thomas yw un o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru ac mae’n credu ei bod hi’n bwysig fod plant a phobl ifanc yn medru rhywfaint ar y Gymraeg.

“Mae yna arbrofion diddorol megis yn Ysgol Treorci yn y Rhondda lle mae yna ymgais wedi cael ei wneud i sicrhau bod plant sydd ddim yn dewis astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg serch hynny yn cael eu trwytho i ddysgu’r Gymraeg fel iaith.

“A dw i’n meddwl y dylai hynny fod yn ffocws,  dros y genhedlaeth nesaf, i drio troi’r system addysg Gymraeg yn un sydd yn creu gwlad gwirioneddol ddwyieithiog.”

Er bod yn rhaid i ddisgyblion sydd yn dewis cael eu haddysg yn Saesneg gael rhywfaint o wersi Cymraeg nes eu bod nhw yn 16 oed, mae’r AC yn dweud nad oes digon o gefnogaeth ac adnoddau i ddysgu Cymraeg ail iaith.

“Mi roeddwn i’n lwcus. O’n i mewn ysgol Saesneg ac roedd gen i athro arbennig o dda a fe wnes i ddysgu’r Gymraeg yna. Ond dw i ond yn gallu meddwl am un bachgen arall o’r un ysgol a fi wnaeth llwyddo yr un fath. Dw i’n meddwl bod angen mwy na un neu ddau o’r genhedlaeth nesaf os ydyn ni am weld y Gymraeg yn ennill mwy o fri eto a mwy o le tu fewn i’r Gymru ddwyieithog,” meddai Simon Thomas.