Efa Gruffudd Jones
Yr wythnos hon, wrth i’r Urdd ddathlu  ei ben-blwydd yn 90 mlwydd oed,  mae’r Prif Weithredwr Efa Gruffudd Jones, wedi amlinellu gweledigaeth y mudiad ieuenctid ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.

Mae’r Urdd am weithio ar ddatblygu mwy o weithgareddau sydd yn ateb anghenion pobl ifanc, fel y gallant fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg a chael budd o’u profiadau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynyddu

Yn ôl yr Urdd, mae angen Swyddog Ieuenctid penodol i hybu’r Gymraeg ym mhob un o 17 rhanbarth yr Urdd, fydd yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a phobl ifanc er mwyn creu’r cyfleoedd hyn.

Mae’r Urdd hefyd yn gobeithio dyblu nifer y Swyddogion Chwaraeon dros y 10 mlynedd nesaf, fel bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael cyfle i wneud gweithgareddau chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ymhlith newidiadau eraill, mae’r Urdd yn anelu i gynyddu nifer y gwirfoddolwyr ifanc sy’n cael eu hyfforddi i gynnal clybiau chwaraeon cymunedol o 600 i 1,000, a chynyddu nifer y clybiau chwaraeon cymunedol trwy gyfrwng y Gymraeg o 70 i 140.

Yn y Gwersylloedd, y nod yw cynyddu nifer y rhai sy’n mynychu fel y gellir gwneud buddsoddiadau pellach i’r safleoedd, a sefydlu rhaglen ymestyn i’r gymuned, fydd yn galluogi plant a phobl ifanc o bob cefndir i fwynhau gweithgareddau awyr agored.

Mae Eisteddfod yr Urdd yn gobeithio cynyddu’r nifer sydd yn cystadlu ar lefel lleol o 10,000 a chynyddu’r nifer sydd yn mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol o 20,000.

‘Byw trwy gyfrwng y Gymraeg’

“Mae’n 90 mlynedd ers y rhoddodd Syr Ifan ab Owen Edwards wahoddiad i blant Cymru ymuno gyda mudiad ieuenctid cyffrous a newydd.  Ein nod heddiw yw cynnig cyfle i blant a phobl ifanc Cymru fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae’r nod yn un gynyddol heriol mewn amgylchfyd ieithyddol a chymdeithasol sy’n newid yn gyson,” meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd.

“Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol a chyffrous ar gyfer y 10 mlynedd nesaf, ond yn gynllun y gellir ei gyflawni.  Mae’r meysydd datblygu yn seiliedig ar ein gwaith ymchwil a’n hadnabyddiaeth o blant a phobl ifanc.

“Mae gan yr Urdd 50,000 o aelodau a 950 o ganghennau ym mhob cwr o Gymru, sy’n cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau.”