Canslo'r gynhadledd yn Llandudno
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n canslo’u Cynhadledd Wanwyn yn Llandudno eleni, er mwyn cynnal rali undydd ar ddyddiad arall.

Roedd y digwyddiad deuddydd, blynyddol, i fod i gael ei gynnal yn Venue Cymru, Llandudno ar 3 a 4 Chwefror eleni, ond cadarnhaodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig wrth Golwg 360 prynhawn ’ma fod y digwyddiad wedi cael ei ganslo.

Mae ffynhonnell o fewn y blaid bellach wedi cadarnhau fod cost cynnal y digwyddiad yn ffactor mawr yn y penderfyniad – a chost diogelwch yn benodol.

‘Rali Undydd Ceidwadwyr Cymru’

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid wrth Golwg 360 heddiw y byddai digwyddiad arall nawr yn cael ei drefnu yn lle’r Gynhadledd Wanwyn, ac y byddai’n cael ei gynnal ym mis Mawrth.

“Bydd y fformat newydd yn golygu rali undydd yn lansio ein Hymgyrch Llywodraeth Leol ar gyfer ymgyrchwyr y blaid,” meddai’r llefarydd, gan amseru’r digwyddiad i gyd-daro gydag ymgyrchu’r blaid ar gyfer etholiadau’r Cyngor ar draws Cymru.

Cyhoeddodd y Ceidwadwyr heddiw y byddai Fforwm Wanwyn y blaid Brydeinig hefyd yn cael ei ganslo eleni.

“Fe fydd y Fforwm Brydeinig hefyd yn cael ei gynnal ar ffurf rali undydd. Mae lleoliad a dyddiad hwnnw eto i gael eu cadarnhau.”