Mae cofnod Cymraeg o drafodaethau llawn y Cynulliad wedi cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf ers Gorffennaf 2010.

Ddoe, fe gyhoeddwyd Cofnodion y Trafodion yn gwbwl ddwyieithog am y tro cyntaf ers i Gomisiwn y Cynulliad benderfynu rhoi’r gorau i gyfieithu sylwadau Saesneg y Siambr i’r Gymraeg, er mwyn arbed arian.

Datgelodd Golwg 360 yn ystod wythnos Eisteddfod 2009 fod Comisiwn y Cynulliad, dan gadeiryddiaeth Dafydd Elis-Thomas, wedi penderfynu na fyddai’n rhaid cyfieithu Cofnod y Trafodion i’r Gymraeg o ganol 2010 ymlaen, er y byddai sylwadau Cymraeg ar lawr y Siambr yn dal i gael eu cyfieithu i’r Saesneg.

Ond ddoe, fe ddaeth y drefn honno i ben, gan ddychwelyd i’r drefn flaenorol o gyfieithu bob sylw sy’n cael ei wneud yn ystod y trafodaethau llawn yn Siambr y Cynulliad i’r ddwy iaith.

‘Beirniadaeth’

Cafodd y penderfyniad i atal y cyfieithu ei feirniadu’n llym gan Fwrdd yr Iaith a Chymdeithas yr Iaith, ac roedd  bron i 2,000 o bobl wedi arwyddo deiseb  yn galw ar y Cynulliad i ddychwelyd i gofnodion dwyieithog.

Ar y pryd, cyhuddwyd y Cynulliad o “dorri ei gynllun iaith ei hun,” gan Fwrdd yr Iaith, ond fe benderfynodd y Comisiwn sy’n gyfrifol am waith y Cynulliad fod arbedion o hyd at £250,000 i’w gwneud bob blwyddyn trwy atal y gwasanaeth.

Ond ym mis Tachwedd y llynedd fe gyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad y byddai’r gwaith o gyfieithu’r Cofnod yn ail-ddechrau o fis Ionawr eleni.

Bydd y cofnod yn cael ei gyfieithu drwy dechnoleg Google Translate o hyn ymlaen, gyda chyfieithwyr proffesiynol yn adolygu’r gwaith cyn ei gyhoeddi.

Yn ôl y Comisiwn, fe fydd hyn yn costio £110,000 y flwyddyn i’r Cynulliad, sef tua hanner y gost wreiddiol o dalu cyfieithwyr i wneud y gwaith i gyd.